Newyddion

 


Cân Masnach Deg

Bu Gai yn perfformio cân efo plant Ysgol Tanygrisiau (ei hen ysgol) yn Cellb, Blaenau Ffetsiniog ar Ddydd Gwyl Dewi (Mawrth 1af). Cafodd y gân, 'Cofiwch', ei chyfansoddi yn yr ysgol gyda disgyblion blwyddyn 5 a 6. Y Dref Werdd cydlynodd y prosiect fel rhan o bythefnos Masnach Deg 2011.

Sesiwn Unos, C2 BBC Radio Cymru.

Gai wedi bod mewn dros nos yn stwidio'r BBC ym Mangor i wneud caneuon efo artistiaid eraill!
Eisiau clywed y caneuon / gweld lluniau a fideos? Ewch i fama rwan!

Ffranconstein!

Mae Dr Ffranconstein wedi dwyn jynk kit Gai, tynnu fo i ddarnau a gwneud anghenfil swnllyd ohono! arghH!

Darllenwch mwy yma!

Dwy album ar y ffordd

Mae Gai wedi bod yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth efo'r hynod dalentog Richard Roberts (o'r band Gola Ola) i recordio'i albwm newydd – Ffish Ffresh. Mi fydd Gai hefyd yn recordio ychydig o ganeuon adref yn stiwido Sbensh. Hwn yw'r casgliad gynta o ganeuon Saesneg mae Gai wedi ei recordio a'i rhyddhau. Dyddiad rhyddhau i'w gadarnhau.

Hefyd... mae Gai a'r band wedi bod yn ymarfer albwm Cymraeg newydd – Bethel (teitl am y tro). Y bwriad ar hyn o bryd yw i recordio popeth yng Nghapel Bethel gan obeithio dal naws seiniol yr adeilad ar y recordiad.

"...rwyf yn hapus iawn efo'r caneuon newydd"

Dyddiadau rhyddhau i'w cadarnhau.

Cysylltiad a mwynwyr Chile!

Cafodd Gai ei gomisiynu gan Parc Cenedlaethol Eryri i wneud gweithdai, ar y cyd a'r prifardd Myrddin ap Dafydd, yn ysgolion Capel Garmon, a Gellilydan. Aeth ysgol Capel Garmon i weld y gromlech oes y cerrig gerllaw, yno cafwyd eu hysbrydoli i sgwennu cân i’r mwynwyr yn Chile. Seren Esperanza oedd enw’r gân, hwiangerdd i ferch un o’r mwynwyr oedd wedi eu claddu’n fyw yn y gwaith. Roedd yr ysbrydoliaeth yn seiliedig ar y ffaith bod pobl oes y cerrig yn cael eu ail-eni os y claddwyd yn y gromlech..... fel cafodd y mwynwyr eu ‘ail-eni’ wedi'r safiad.
 

Gigs 2011


IONAWR

30 Venue Cymru, Llandudno (Take Part Festival)

CHWEFROR

26 Clwb Rygbi, Pwllheli

MAWRTH

4   CellB, Blaenau Ffestiniog. (+Sen Segur, Y Saethau)
6   Can i Gymru 2011, S4C. (Neuadd Pontrhydfendigaid)
25 Y Llew Coch, (ger) Conwy

EBRILL

16 Clwb y Castell, Marine, Criccieth

MAI

7 Burning Gingerman, Conwy Falls, Penmachno.
28 Whitehall, Pwllheli

MEHEFIN

11 Hwyl Ddydd, Llan Ffestiniog
12 Cann Offis, Llangadfan (jam!)
17 Bedrock, Beddllwynog, Merthyr Tudful
18 Gwyl Cefni, Llangefni, Môn
25 Pengwern, Llan Ffestiniog

GORFFENAF

2 (Dydd) Gwyl Rhuthun
2 (Nos) Cân ar Dân, DInas Mawddwy
24 Gwyl Gardd Goll, Faenol, Felinheli

AWST

2 Clwb RAFA, Wrecsam
3 Cymdeithas yr Iaith, Wrecsam
5 Maes B, Eisteddfod Wrecsam

TACHWEDD

24 Glob, Bangor (acwstic)
25 Ring, Llanfrothen (acwstic)

RHAGFYR

1 Cellb, Bl.Ffestiniog (acwstic)
10 Clwb Golff, Bala
16 Fic, Llithfaen
24 Tap, Bl.Ffestiniog (acwstic)
28 Cofi Roc, Caernarfon
Gallwch ymweld â Gai Toms ar:
Gai Toms myspace.com
Am fwy o wybodaeth artistiaid label Sbensh ewch i: Sbensh