"Ges i ngeni ym Mangor, ges i fy magu mewn sbensh, rioed 'di gweithio'n chwarel, ond genai lechan yn y gwaed!", geiriau arfarwol y gân Graffiti Cymraeg, Anweledig, geiriau Gai Toms.
Ennillydd 10 gwobr RAP, BBC Radio Cymru!
Ers 2007 bellach, mae Gai wedi rhoi gorau i'r enw llwyfan 'Mim Twm Llai' ac yn perfformio a recordio yn defnyddio enw ei hun. Ei gynnyrch diweddaraf yw'r albwm eco-gysyniadol - ‘Rhwng y Llygru a’r Glasu', 2008. Albwm cafodd ei recordio yn defnyddio ynni glân (pan bo modd) a drymiau unigryw wedi eu gwneud o jync.
Nid yw Gai yn ganwr a llais i suo’ch baban i gysgu, yn hytrach mae gwell ganddo arbrofi efo lleisiau ac arddulliau o bob math, dibynnu ar natur y gân. Mae’n gerddor amryddawn gyda’r gitar yn brif offeryn ac offerynau eraill fel drymiau, bas, piano, mandolin, banjo a’r organ geg yn dod yn hawdd iddo. Mae pobl wedi cymharu defnydd solo cynnar Gai fel y 'Meic Stevens nesaf', yn ddiweddar mae wedi cael ei ddosbarthu fel y 'Tom Waits Cymraeg'... wedi dweud hyn mae Gai yn hen ddigon cyfforddus yn ei sgidiau ei hun bellach. Mae arddull cerddorol Gai yn amrywio o werin Cymraeg, Americana Waitsaidd a chymysgedd iach o roc, pop a grwfs latino / caribiaidd!
Ganed Gai Toms, (Gareth Thomas) ym Mangor, Gwynedd yn 1976. Fe magwyd yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, yn fab i Meurig (Mim Twm) a Gwenda Thomas ac yn frawd bach i Elaine. Roedd Elaine yn ysbrydoliaeth iddo ddysgu chwarae'r gitar, ond dysgodd ei hun gyda llyfr cordiau syml a dos dda o fiwsig!
Pan yn 14 oed yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, cyd-ffurfiodd y band 'Anweledig' gyda Meic Jones a Rhys Roberts (cyn-Sibrydion) ar Wyl San Steffan, 1992. Gyda aelodau’n mynd a dod... lein yp sefydlog y band oedd Ceri Cunnington (llais), Iwan ‘Oz’ Jones (gitar), Gai Toms (gitar), Rhys Roberts (bas), Jo Buckley (allweddellau), Justin Davies (organ geg), Edwin Humphreys (sax), Arwel Davies (trombon), Bari Gwiliam (trwmped).
Discograffi Anweledig i'w weld isod.
Cliciwch i lawr lwytho Pecyn y Wasg. Mae'r pecyn yn cynnwys gwybodaeth a lluniau (resolution uchel a isel).
Cliciwch i lawrlwytho'r cynllun llwyfan.
Cliciwch ar enw'r albym i lawrlwytho geiriau. Rhaid cael Acrobat Reader i'w gwylio. Mi allwch chi lawrlwytho'r rhaglen am ddim o www.adobe.com.
![]() |
2008 | Rhwng y Llygru a'r Glasu(album) / Label: Sbensh |
|---|---|---|
![]() |
2006 | Yr Eira Mawr (album) fel Mim Twm Llai. / Label: Crai |
![]() |
2005 | Straeon y Cymdogion (album) fel Mim Twm Llai. / Label Crai |
![]() |
2004 | Byw(ep) gyda Anweledig. / Label: Rasal |
![]() |
2002 | O'r Sbensh (album) fel Mim Twm Llai. / Label: Crai |
![]() |
2001 | Gweld y Llun(album) gyda Anweledig. / Label: Crai |
![]() |
2001 | Low Alpine(ep) gyda Anweledig. / Label: Crai |
![]() |
2000 | Scratchy(ep cydweithio â Zion Train) gyda Anweledig. / Label: Crai |
![]() |
1999 | Cae yn Nefyn(ep) gyda Anweledig. / Label: Crai |
![]() |
1998 | Sombreros yn y Glaw(album) gyda Anweledig. / Label: Crai |
Mae albyms sydd wedi rhyddau gan Crai a Rasal ar werth drwy www.sainwales.com
Review: Planet, The Welsh Internationalist. Issue 192. / Dec 08 / by Iwan Llwyd
A Clean Slate?
Although the influence of the north Wales quarries and their culture - ironically so alien to the quarryowners themselves - has declined rapidly over the last half century, this recent release shows the continuing influence of quarry communities. Rhwng y Llygru a'r Glasu (Between the Ages of Polluting and Renewing, www.sbensh.com £11.99) is singer-songwriter Gai Toms' first fully fledged solo album. Gai has been prominent in the Welsh rock scene over the last 16 years, first as a leading member of the Blaenau Ffestiniog based Ska Rock band - Anweledig, and his second incarnation as Mim Twm Llai. His latest offering is an eco-concept album, reflecting not only his concerns about the effects of man's industrial activities on his hometown, but also the wider effects of global warming in 'Llosgi' (Burn), homelesness in 'Cardotyn' (Tramp) and waht the future holds for the next generation in 'Fy Mab' (My Son).
The album was mostly self-produced by Gai himself using clean energy at his home in the mountains of north Wales, and it is packaged with recycled material. The musical material ranges from quiet, lyrical acoustic songs to witty musical contradictions suach as inferno blues guitar, backed by a recycled drum kit to create his own unique statements about the world of today and of tomorrow. Once again Gai toms has made an important contribution not only to the Welsh musical scene, but also to much wider social and political debates.
Review: The Ecologist. Dec / Jan 09 / by Eifion Rees
Rhwng Y Llygru a'r Glasu: Album www.sbensh.com £11.99 ... 'It's not me who's going to save the world, it's up to all of us', sings Gai Toms - through half a salvaged canoe. The Welsh singer's new eco album is all about spreading the word on the enviroment in the greenest way possible. He does it using a drum kit made of plastic and scrap metal, local North Wales studio facilities powered by clean energy, recycled CD packaging and intelligent lyrics with a green bent. The 13 songs on Rhwng y Llygru a'r Glasu are heartfelt and powerful, and Toms could choose no more fittingly ironic a medium for pleading, cajoling and shaming us into cleaning up our act than dirty rock'n'roll. Da iawn wir.